2013 Rhif 2843 (Cy. 270)

ARBED YNNI, CYMRU

Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) (Diwygio) 2013

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) 2011 (O.S. 2011/656 (Cy. 94)).

Mae rheoliad 3 yn diwygio’r diffiniad o “budd-daliad sy’n dibynnu ar brawf modd” yn unol â diwygiadau i fudd-daliadau nawdd cymdeithasol i gynnwys Credyd Cynhwysol a gostyngiadau’r dreth gyngor, sy’n disodli cynllun budd-dal y dreth gyngor. Mae’r diffiniad o “meddiannaeth breifat” wedi ei ddiwygio i ganiatáu i’r rheini sydd o dan drefniadau ecwiti a rennir gael eu cynnwys yn y Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref.

 


2013 Rhif 2843 (Cy. 270)

ARBED YNNI, CYMRU

Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) (Diwygio) 2013

Gwnaed                                 31 Hydref 2013

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       5 Tachwedd 2013

Yn dod i rym                     30 Tachwedd 2013

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 15 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1990([1]), sy’n arferadwy bellach ganddynt hwy o ran Cymru([2]).

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) (Diwygio) 2013.

(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Tachwedd 2013 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) 2011([3]).

 

Diwygio’r prif Reoliadau

2. Mae’r prif Reoliadau wedi eu diwygio yn unol â rheoliad 3.

Diwygio rheoliad 2 (dehongli)

3. Mae rheoliad 2 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—

(1) Yn lle’r diffiniad o “budd-daliad sy’n dibynnu ar prawf modd” (“means-tested benefit”) rhodder—

ystyr “budd-daliad sy’n dibynnu ar brawf modd” (“means-tested benefit”) yw—

(a)   cymhorthdal incwm a budd-dal tai (pob un fel y diffinnir “income support” a “housing benefit” yn ôl eu trefn yn Rhan VII o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992([4]));

(b)  cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor (fel y diffinnir “council tax reduction scheme” yn Neddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992([5]));

(c)   credyd pensiwn y wladwriaeth (fel y diffinnir “state pension credit” yn Neddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002([6]));

(d)  credyd treth gwaith a chredyd treth plant (fel y diffinnir “working tax credit” a “child tax credit” yn ôl eu trefn yn Neddf Credydau Treth 2002([7])) cyn belled ag nad yw incwm y ceisydd yn y naill achos na’r llall yn uwch na’r trothwy incwm perthnasol;

(e)   lwfans cyflogaeth a chymorth yn seiliedig ar incwm (fel y diffinnir “income-related employment and support allowance” yn Neddf Diwygio Lles 2007([8])); ac

(f)   credyd cynhwysol (fel y diffinnir “universal credit” yn Neddf Diwygio Lles 2012([9]));

(2) Yn y diffiniad o “meddiannaeth breifat” (“private occupancy”) hepgorer “(gan gynnwys o dan drefniadau ecwiti a rennir)”.

 

 

 

Alun Davies

 

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, un o Weinidogion Cymru

 

31 Hydref 2013



([1])           1990 p. 27; diwygiwyd adran 15 gan adran 142 o Ddeddf Grantiau  Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 (p. 53).        

([2])           Cyfarwyddodd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru

                (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fod y

                swyddogaethau o dan adran 15 i fod yn arferadwy o ran Cymru gan    Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn gydredol â’r Ysgrifennydd Gwladol. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi (p. 32), mae’r swyddogaethau hynny’n arferadwy bellach gan Weinidogion Cymru  o ran Cymru.

([3])           O.S. 2011 Rhif 656 (Cy. 94).

([4])           1992 p. 4.

([5])           1992 p. 14.

([6])           2002 p. 16.

([7])           2002 p. 21.

([8])           2007 p. 5.

([9])           2012 p. 5.